Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 18 Mawrth 2021
Amser:
09.15 -
12.33
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/11114
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Lynne Neagle AS (Cadeirydd) Dawn Bowden AS Hefin David AS Suzy Davies AS Siân Gwenllian AS Laura Anne Jones AS |
Tystion: |
Sarah Crawley, Barnardo's Cymru Brigitte Gater, Gweithredu dros Blant Cecile Gwilym, NSPCC Cymru Deborah Jones, Voices from Care Emma Phipps-Magill, Voices from Care Sharon Lovell, Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol Cymru (NYAS) Ben Twomey, National Youth Advocacy Service (NYAS) Cymru Jackie Murphy, Tros Gynnal Plant (TGP) Sally Jenkins, Cyngor Dinas Casnewydd Jan Coles, Cyngor Sir Powys Nicola Stubbins, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru Jonathan Griffiths, Cyngor Sir Penfro |
Staff y Pwyllgor: |
Llinos Madeley (Clerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Phil Boshier (Ymchwilydd) Sian Thomas (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, gan ychwanegu y byddai’r cyfarfod yn cael ei ddarlledu'n fyw ar www.Senedd.tv
1.3 Os byddai’r Cadeirydd yn gorfod gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, nododd y byddai Dawn Bowden yn cymryd yr awenau fel Cadeirydd dros dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.
1.4 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
2 COVID-19: plant sy’n agored i niwed
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan NSPCC Cymru, Barnardo’s Cymru a Gweithredu dros Blant.
3 COVID-19: plant sy’n agored i niwed
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol, Voices from Care Cymru a Tros Gynnal Plant Cymru.
3.2 Cytunodd Tros Gynnal Plant Cymru i ddarparu nodyn ynghylch faint o blant sy’n byw yn y 155 o gartrefi preifat annibynnol yng Nghymru.
3.3 Cytunodd Voices from Care Cymru i ddarparu’r wybodaeth a ganlyn:
adroddiad ar y broses ar gyfer pobl ifanc sy’n gadael gofal; a’r
wybodaeth ddiweddaraf am brosiectau sy’n gysylltiedig â’r broses o adael gofal yng Nghymru, sydd â’r teitl ‘Pan Fydda i’n Barod’.
4 COVID-19: plant sy’n agored i niwed
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr ar reng flaen gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdodau lleol.
5 Papurau i’w nodi
5.1 Cafodd y papurau eu nodi.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
6.1 Cafodd y cynnig ei gytuno.
7 COVID-19 - Trafod yr adroddiad drafft
7.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft. Oherwydd mai dyma gyfarfod olaf y Pwyllgor yn ystod y bumed Senedd, cytunodd yr Aelodau i drafod unrhyw welliannau terfynol yn electronig, gan gytuno ar yr adroddiad diwygiedig yn electronig hefyd.